Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Ionawr 2025
Amser:
09.01 -
09.17
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Jane Hutt AS Paul Davies AS (yn lle Darren Millar AS) |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Matthew Richards, Cyfarwyddwr Dros Dro Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar AS. Roedd Paul Davies AS yn bresennol fel dirprwy ar ei ran.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Porthladd Caergybi (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau'r Gaeaf ar y GIG (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gwynt ar y Môr (45 munud)
·
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r
Gymraeg: Technoleg a’r Gymraeg (45
munud) Datganiad
Ysgrifenedig
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y byddai’n talu teyrnged i Jenny Randerson ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn heddiw, cyn gwahodd Jane Dodds i siarad fel Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Yn dilyn ymddiswyddiad Paul Davies fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai cadeiryddiaeth y Pwyllgor hwnnw barhau i gael ei ddyrannu i grŵp y Ceidwadwyr. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer y rôl hon ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn heddiw, gyda chanlyniad unrhyw bleidlais gyfrinachol yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y cyfarfod.
Hefyd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i newid yr aelodau Ceidwadol ar nifer o bwyllgorau i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth.
O ganlyniad, cytunwyd ar y newidiadau ychwanegol a ganlyn i agenda ddydd Mawrth:
· Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau (5 munud)
· Enwebiadau ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor (5 munud)
· Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.00pm
Dydd Mercher
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
·
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 10
munud)
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 14 Ionawr 2025
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Cartrefi Cynnes (45 munud)
·
Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau Gaeaf y GIG (45
munud)
Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025
· Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Adfer natur yng Nghymru (45 munud)
· Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 (5 munud)
· Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2025 (5 munud)
· Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024 (15 munud)
Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 22 Ionawr 2025 –
· Dadl ar NNDM8756: Mabon ap Gwynfor AS (Dwyfor Meirionnydd) (60 munud)
Dydd Mercher 29 Ionawr 2025 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Cyfalaf Trafodion Ariannol (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer: Delyth Jewell AS (Dwyrain De Cymru) (30 munud)
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:
· gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Cyflogaeth at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig; y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol; a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad o 7 Mawrth 2025;
· cyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Data (Defnydd a Mynediad) at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol; Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig; y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith; y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol; a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau o 7 Mawrth 2025. Nododd y Trefnydd y gallai fod yn bosibl ymestyn y terfyn amser hwn, yn amodol ar amserlen y Bil yn Senedd y DU; ac
· ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Rhentwyr tan 31 Ionawr 2025.
Nododd y Pwyllgor hefyd y byddai swyddogion y Senedd a Llywodraeth Cymru yn trafod y posibilrwydd o ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) o 10 Ionawr 2025, o gofio bod y ddadl ar gydsyniad ar hyn o bryd wedi’i threfnu ar gyfer 28 Ionawr a’i bod yn bosibl y gallai Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ychwanegol gael ei osod.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024 at y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i graffu arnynt, ac i ofyn i'r pwyllgorau adrodd erbyn 20 Ionawr 2025, cyn y ddadl ar y rheoliadau yn y Senedd, a drefnwyd ar gyfer 21 Ionawr 2025.